Dysgwch ychydig

Amdanom ni

Llwybrau

Yma ym Mlaenau Gwent rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wneud yn siŵr bod gennym y cyfleoedd cywir ar gael i bobl ifanc wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol a thu hwnt iddi. Mae hynny’n golygu cael y dewisiadau a chyfleoedd cywir i weddu i anghenion pawb.

Gyda’n partneriaid, rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd weithiau cael mynediad at y cyfleoedd cywir neu ddod o hyd i’r cymorth cywir. Rydym yma i’ch cefnogi gyda’ch taith ac rydym am eich gwneud yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael yma ym Mlaenau Gwent.

Mae Llwybrau Blaenau Gwent wedi’i ddatblygu i greu un lle i gael mynediad at yr holl wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch i helpu gydag unrhyw benderfyniadau ac i ddod o hyd i unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch.

P’un a ydych yn edrych am gyrsiau neu brentisiaethau, rhaglenni hyfforddeiaeth, neu gymorth ag anghenion a dyheadau eraill, rydym am i chi allu cael mynediad at y cyfleoedd sy’n briodol i chi.

Cysylltwch â ni:

Os ydych am siarad â ni neu os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r opsiynau sydd ar gael.

Cyfeiriad:
Sefydliad Glynebwy,
Stryd yr Eglwys,
Glynebwy,
Gwent,
NP23 6BE

Gwefan yn cael ei hadeiladu