Gyrfa Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad Cymru ym maes gyrfaoedd. Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd diduedd i holl bobl Cymru i’w helpu i gynllunio eu gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i’r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt. Mae cynghorwyr Gyrfa Cymru yn gweithio ym mhob ysgol a gallant gefnogi’r rhai mewn addysg ddewisol yn y cartref, darpariaethau Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY), ac ysgolion arbennig.
Am ystod lawn o wasanaethau a chynigion, gwelerhttps://careerswales.gov.wales/about-us