Mae pob un o’n rhaglenni ‘camu ymlaen’ (Camu Ymlaen at Les, Addysg a Chyflogaeth) yn canolbwyntio ar y person ifanc. Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio i gydnabod nad oes unrhyw un unigolyn yn dysgu yn yr un ffordd ac felly mae’n bwysig nad yw ein hymagwedd byth yn generig. Mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar feysydd craidd bywyd person ifanc. Rydym yn eu cefnogi i symud ymlaen trwy bob cam o’r rhaglen ddysgu, gan ddatblygu a gwella eu sgiliau a’u galluoedd.
Mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu maes ac yn gallu adnabod yr anghenion, y rhwystrau a’r potensial sydd gan bobl ifanc. Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn gweithio drwy’r rhaglen gywir ar yr amser iawn, ac ar eu cyflymder eu hunain.
Rydym yn darparu ystod o gymwysterau a dyfarniadau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg sy’n gysylltiedig â byd gwaith trwy weithdai rhyngweithiol. Rydym yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau byw, gan ddefnyddio ein canolfannau dysgu meithringar i alluogi pobl ifanc i archwilio eu camau nesaf yn ddiogel wrth gael mynediad at ryngweithio un-i-un pwrpasol gan ein cydweithwyr addysgu cymwys.
Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud ein rhaglen addysg mor amrywiol a rhyngweithiol â phosibl. Ochr yn ochr â darpariaeth yn y ganolfan, rydym yn darparu ystod o gyfleoedd y tu allan i’r ystafell ddosbarth sy’n dod â dysgu yn fyw. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag amrywiaeth o gyflogwyr, darparwyr iechyd a ffitrwydd, a safleoedd o ddiddordeb diwylliannol.