Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd sy’n wynebu anawsterau.
Mae’r tîm Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig gwahanol fathau o gymorth yn dibynnu ar yr anghenion. Mae’n rhoi pwyslais ar ymyrraeth gynnar, atal, a darparu cymorth i deuluoedd cyfan, yn hytrach nag unigolion.
Bydd angen llawer o gymorth ar faterion cymhleth, tra bydd angen cymorth ar rai teuluoedd i oresgyn problemau llai i’w hatal rhag gwaethygu. Mae gan y rhaglen ddau brif nod: cefnogi pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni eu llawn botensial, a helpu i wella iechyd a lles teuluoedd a chefnogi pob agwedd ar fagu plant.