Yma ym Mlaenau Gwent, mae cynnig eang o wasanaethau a chyfleoedd i bobl ifanc 11-25 oed. Rydym am sicrhau bod pob person ifanc yn ymwybodol o hyn ac rydym wedi creu’r wefan hon i helpu i lywio a chael mynediad at gymorth.
Mae dull cydgysylltiedig ymhlith gwasanaethau yma ym Mlaenau Gwent ac rydym am barhau i ddatblygu hyn, rhannu’r wybodaeth hon, a pharhau i gael effaith gadarnhaol ar bawb yr ydym yn eu cefnogi.
Gobeithio, trwy ddatblygu Llwybrau BG, y bydd mwy o bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol yn gallu cyrchu’r wybodaeth hon ac yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Chwiliwch y wefan ac edrychwch ar yr hyn sydd ar gael a hefyd edrychwch ar y dudalen amdanom ni.